Collection: Asiffeta
Ar ben mynydd uwchlaw cwm Penmachno yn 1904 fe grwydrodd y gwyddonydd, athronydd, botanegydd a cynllunydd dillad Dr Easmus Wood. Yno fe ddarganfuodd perlysieuyn prin. Yn ôl yn ei labordy yn Manod fe gymysgodd y doctor y perlysieuyn, mêl Cymraeg a fodca o Deiniolen i greu "Asiffeta" moddion i'r galon. Dio'm yn cofio lot ar ôl profi Asiffeta am y tro cyntaf, dim on iddo fo ddeffro ar long i'r Unol Daleithiau wedi priodi Gwyddeles o'r enw Maude O'Flanrahan. Fe aeth ymlaen i werthu Asiffeta o amgylch y byd ochr yn ochr a sefydlu brand dillad mwyaf arloesol Cymru. Roedd David Lloyd George, Leila Megane a Billy Meredith ymysg y sêr oedd yn ffans o Asiffeta y moddion a'r crysau T a hwdis. Heddiw mae'r brand yn ôl i chi cael mwynhau rhai o gynlluniau clasurol Dr Wood.